Skip to main content

Rhwydweithio cymdeithasol nad yw ar werth.

Ddylai eich ffrwd gartref bod yn llawn gyda'r hyn sydd o fwyaf o bwys i chi, nid beth mae corfforaeth yn meddwl dylech ei weld. Cyfrwng cymdeithasol eithriadol o wahanol, yn ôl yn nwylo'r bobl.

Cadwch drefn ar eich llinell amser eich hun

Chi sy'n gwybod orau beth rydych chi am ei weld yn eich ffrwd cartref. Dim algorithmau na hysbysebion i wastraffu'ch amser. Dilynwch unrhyw un ar draws unrhyw weinydd Mastodon o gyfrif sengl a derbyn eu postiadau mewn trefn gronolegol, a gwnewch eich cornel o'r rhyngrwyd ychydig yn debycach i chi.

Adeiladu eich cynulleidfa yn hyderus

Mae Mastodon yn cynnig cyfle unigryw i chi reoli'ch cynulleidfa heb ymyrraeth. Mae defnyddio Mastodon trwy eich seilwaith eich hun yn caniatáu ichi ddilyn a chael eich dilyn gan unrhyw weinydd Mastodon arall ar-lein, a gennych chi yn unig mae rheolaeth drosto.

Creadigrwydd heb ei ail

Mae Mastodon yn galluogi postiadau sain, fideo a llun, disgrifiadau hygyrchedd, arolygon barn, rhybuddion cynnwys, avatars animeiddiedig, emojis wedi'u teilwra, rheolaeth tocio lluniau cryno, a mwy, i'ch helpu i fynegi'ch hun ar-lein. P'un a ydych chi'n cyhoeddi'ch celf, eich cerddoriaeth, neu'ch podlediad, mae Mastodon yno i chi.